Gwyddor (iaith)

Systemau ysgrifennu'r byd

System o argraffion ellir eu defnyddio fel blociau adeiladu i gynrychioli iaith ar ffurf ysgrifenedig yw gwyddor. Mae'r argraffion yma yn cynrychioli sain yn hytrach na phethau (fel yn achos cymeriadau Tseineeg neu'r kanji Japaneg, er enghraifft). Mae rhai gwyddorau yn ffonetig, fel yr wyddor Gymraeg.

Credir i'r wyddor gyntaf gael ei datblygu yn ardal Ffenicia yn y Lefant tua tair mil o flynyddoedd yn ôl. Dros y canrifoedd ymledodd a chafodd ei haddasu a chafwyd gwyddorau eraill fel yr wyddor Roeg a'r wyddor Ladin.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy