Gwylan y Gweunydd

Gwylan y Gweunydd
Oedolyn yn Norwy
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Larus
Rhywogaeth: L. canus
Enw deuenwol
Larus canus
Linnaeus, 1758
Larus canus canus

Gwylan ganolig ei maint o Ewrasia a Gogledd America yw Gwylan y Gweunydd (Larus canus). Mae'n nythu ger y môr a mewn cynefinoedd mewndirol megis gweunydd, corsydd, afonydd a llynnoedd.[1] Mae'r mwyafrif o adar yn mudo i'r de yn ystod y gaeaf. Mae'n bwydo ar infertebratau a physgod gan fwyaf.[1]

Mae'n 40–42 cm o hyd a 110–130 cm ar draws yr adenydd.[1] Mae'r oedolyn yn wyn gyda chefn ac adenydd llwyd. Mae blaenau'r adenydd yn ddu gyda smotiau gwyn. Mae lliw'r coesau a'r big yn felyn neu'n wyrdd. Ceir llinellau llwyd ar y pen yn ystod y gaeaf.

  1. 1.0 1.1 1.2 Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) The Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 1, Oxford University Press, Rhydychen.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in