Gwylys

Gwylys
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Is-deulu: Faboideae
Llwyth: Galegeae
Genws: Glycyrrhiza
Rhywogaeth: G. glabra
Enw deuenwol
Glycyrrhiza glabra
L.[1]
Cyfystyron

Codlys lluosflwydd o deulu'r pys yw gwylys (Glycyrrhiza glabra). Mae'n frodorol i'r Dwyrain Canol a De Ddwyrain Ewrop, ger arfordir Môr y Canoldir. Tyfir i echdynnu'r sudd melys a elwir yn licris o'i wraidd.

Mae'r gwylys yn tyfu dros 0.9 m (3 troedfedd), ac uwchben y ddaear mae ganddo goesynnau hirion a dail adeiniog sy'n cynnwys 9 i 17 o ddeilios wyffurf, a blodau gleision sy'n dwyn sypiau sy'n cynnwys 3 neu 4 hedyn. Mae ei wreidd yn rhwydwaith dwfn o wreiddgyffion.[2]

Tyfir y planhigyn am 3 i 5 flynedd cyn ei gynaeafu. Caiff y gwreiddiau a'r rhisomau eu glanhau, eu gwasgu'n fwydion, a'u berwi ac yna fe grynhoir y sudd licris drwy broses anweddu. Tyfir gwylys heddiw yn Rwsia,[2] De Ewrop a'r Unol Daleithiau.[3] Fe'i dyfir ym Mhrydain ers yr 16g pan gafodd ei dyfu gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog.[2]

Mae ganddo flas chwerwfelys cryf sy'n debyg i anis a ddaw o'r sylwedd glysyrhisin,[3] ac arogl melys. Yn y gegin, defnyddir gwylys i wneud melysion megis licris cymysg a theisenni Pontefract, i flasu Guinness, sambwca a chyrfau a gwirodlynnau eraill a diodydd ysgafn. Yn y fferyllfa mae ei arogl cryf a'i flas neilltuol o fudd wrth gelu blasau cas y moddion, er enghraifft mewn surop peswch a losin gwddf.[2] Defnyddir hefyd i drin wlseri peptig a chlefyd Addison.[3]

  1. 1.0 1.1 "Glycyrrhiza glabra information from NPGS/GRIN". www.ars-grin.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-20. Cyrchwyd 6 March 2008.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Morris
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) licorice (herb). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy