Gwyneth Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1936 Pont-y-pŵl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | dramatic soprano |
Gwobr/au | Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Commandeur des Arts et des Lettres |
Cantores soprano yw Gwyneth Jones (ganwyd 7 Tachwedd 1936 ym Mhontnewynydd, Pont-y-pŵl).
Mae Gwyneth yn nodedig am ganu Opera, a chafodd ei haddysgu yn Accademia Musicale Chigiana, sef Academi Cerdd Chigiana yn Siena, yr Eidal, Coleg Brenhinol Cerdd, Llundain a'r Stiwdio Operatic Rhyngwladol yn Zürich.[1]
Yn 1962 y gwnaeth ei pherfformiad proffesiynol cyntaf, gan ganu fel mezzo-soprano yn opera Christoph Willibald Gluck: Orfeo ed Euridice wedi iddi gael ei gwaith cyntaf fel aelod o Dŷ Opera Zürich. neidiodd ei llais o fezzo-soprano yn 1964, pan ganodd rhan Amelia yn yr opera Un ballo in maschera gan Verdi.