Gyrn Ddu

Gyrn Ddu
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr522 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9945°N 4.3837°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4011846788 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd386 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaGyrn Ddu Edit this on Wikidata
Map

Bryn ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Gyrn Ddu (hefyd: Gurn Ddu ar y map OS). Saif i'r dwyrain o bentref Trefor ac i'r gogledd-ddwyrain o Lanaelhaearn. Mae copa arall ychydig yn is, sef Gyrn Goch, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Gyrn Ddu; cyfeiriad grid SH401467. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 137metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Ceir carneddi o Oes yr Efydd ac olion tai o Oes yr Haearn ar y mynydd. Ar ei lechweddau dwyreiniol, mae olion nifer o hen chwareli ithfaen.

Mae Afon Erch yn tarddu ar lethrau deheuol Gyrn Ddu ac mae tarddle Afon Hen i'w gael yng Nghors-y-ddalfa rhwng Gyrn Ddu a Bwlch Mawr, i'r dwyrain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy