Mudiad Palesteiniaid Islamaidd Sunni yw Hamas (llythrennol: "Brwdfrydedd"). Mae'r enw'n tarddu o'r blaen-lythrennau حركة المقاومة الاسلامية, sef Ḥarakat al-Muqawama al-Islamiyya "Y Mudiad Gwrthsafiad Islamaidd"). Gan y blaid hon mae mwyafrif y seddau ar gyngor Awdurdod Cenedlaethol Palesteina,[6] ac sydd felly'n llywodraethu'r Llain Gaza. Fe'u hetholwyd yn Ionawr 2006. Mae Israel, yr Unol Daleithiau[7] Canada,[8] yr Undeb Ewropeaidd,[9] a Japan yn disgrifio Hamas fel mudiad terfysgol,[10] ond mae Rwsia, Twrci,[11][12] Tsieina,[13][14][15][16] y gwledydd Arabaidd, Iran ac eraill yn gwrthod gwneud hynny.[17]. Mae Awstralia [18] a'r DU [19] yn nodi mai dim ond adain filwrol Hamas sy'n fudiad terfysgol.
Rali gan Hamas ym Methlehem, 2006
Sefydlwyd Hamas yn 1987 gan Ahmed Yassin a Mohammad Taha ar gychwyn yr Intifada Cyntaf ar y Lan Orllewinol fel cangen o'r Frawdoliaeth Fwslimaidd, Eifftaidd.[3][20]. Mae Hamas yn tarddu o'r anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth y PLO yn y cyfnod hwnnw. Tyfodd o'r mudiad Mujama, plaid wleidyddol a gefnogwyd gan Israel ar y dechrau fel gwrthbwys i'r PLO. Daeth Hamas i rym yn Ionawr 2006 gan ennill mwyafrif y gynrycholiaeth ar Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a threchu'r PLO a Fatah.
Mae hefyd yn gwneud gwaith cymdeithasol pwysig gan sefydlu a rhedeg ysbytai, llyfrgelloedd ac ysgolion [21] drwy'r Lan Orllewinol a Llain Gaza, lle mae'n rheoli. Caiff y bai gan Israel am saethu rocedi atynt; ac er mwyn dileu pwer Hamas y lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009 ar 27 Rhagfyr 2008 ac yna Ymosodiad arall gan Israel ar Lain Gaza yn 2014.
Mae Siarter Hamas[22] yn galw am ddatgymalu Gwladwriaeth Israel, gan sefydlu gwladwriaeth Islamaidd newydd ar y Tiriogaethau Palesteinaidd[23].
Mae gan y mudiad ei sianel deledu ei hun, Al-Aqsa TV, sy'n darlledu o ddinas Gaza.
- ↑ 1.0 1.1 "Harakat al-Muqawama al-Islamiyya (Hamas)". Transnational and non state armed groups. Humanitarian Policy and Conflict Research Harvard University. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-10. Cyrchwyd 7 Chwefror 2009.
- ↑ 2.0 2.1 "Mash'al reelected leader of Hamas politburo". Ma'an news agency. 27 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-31. Cyrchwyd 2014-07-18.
- ↑ 3.0 3.1 Higgins, Andrew (24 Ionawr 2009). "How Israel Helped to Spawn Hamas". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-25. Cyrchwyd 24 Awst 2010.
- ↑ * "Understanding Islamism" Archifwyd 2013-03-07 yn y Peiriant Wayback., Cris is Group Middle East/North Africa Report N°37, 2 Mawrth 2005
- ↑
- Islamic fundamentalism in the West Bank and Gaza: Muslim Brotherhood and Islamic Jihad, gan Ziyād Abū 'Amr, Indiana University Press, 1994, tud. 66–72
- Anti-Semitic Motifs in the Ideology of Hizballah and Hamas, Esther Webman, Project for the Study of Anti-Semitism, 1994. ISBN 978-965-222-592-4
- ↑ "Hamas sweeps to election victory", BBC News.
- ↑ "Country reports on terrorism 2005", United States Department of State. Office of the Coordinator for Counterterrorism. US Dept. of State Publication 11324. Ebrill 2006. tud 196
- ↑ "Currently listed entities". Department of Public Safety and Emergency Preparedness. November 22, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-09.
- ↑ "EU blacklists Hamas political wing". BBC News. Medi 11, 2003.
- ↑ If HAMAS is a Terrorist Organization, What Does That Make Israel? Archifwyd 2013-06-01 yn y Peiriant Wayback. Intifada: The Voice of Palestine. 11 Gorffennaf 2010
- ↑ Nodyn:Wayback BBC News. 4 Mehefin 2010
- ↑ Gaza flotilla: Turkey threat to Israel ties over raid BBC News, 4 Mehefin 2010
- ↑ "Bank of China may have helped Hamas kill Jews". Free Zionism. Cyrchwyd 30 March 2014.
- ↑ Abha Shankar (19 Hydref 2013). "Bank of China Terror Financing Case Moves Forward". Investigative Project on Terrorism. Cyrchwyd 30 Mawrth 2014.
- ↑ Joshua Davidovich (18 Rhagfyr 2013). "The China bank is not the issue here, dude". The Times of Israel. Cyrchwyd 30 Mawrth 2014.
- ↑ China's Palestine Policy
- ↑ How to Confront Russia's Anti-American Foreign Policy The Heritage Foundation. 27 Mehefin 2007
- ↑ "Gwefan Llywodraeth Awstralia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-04. Cyrchwyd 2009-01-04.
- ↑ "Gwefan y Llywodraeth Brydeinig". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-18. Cyrchwyd 2009-01-04.
- ↑
This article incorporates public domain material from the Congressional Research Service document "Hamas: The Organizations, Goals and Tactics of a Militant Palestinian Organization".
- ↑ "Palestinian election raises varying opinions within U" Archifwyd 2008-06-09 yn y Peiriant Wayback.. The Minnesota Daily, 31 Ionawr 2006
- ↑ Siarter Hamas
- ↑ "Israeli Official Says Hamas Has Made Abbas Irrelevant", The New York Times, 27 Chwefror 2006.