Hannibal | |
---|---|
Ganwyd | 247 CC Carthago |
Bu farw | 183 CC o meddwdod Gebze |
Dinasyddiaeth | Ancient Carthage |
Galwedigaeth | gwleidydd, arweinydd milwrol |
Tad | Hamilcar Barca |
Priod | Imilce |
Plant | Haspar Barca |
Llinach | Barcids |
Gwobr/au | illustrious son |
Cadfridog a gwladweinydd Carthaginaidd oedd Hannibal, mab Hamilcar Barca, (247 CC – c. 183 CC).
Bu Hamilcar Barca, tad Hannibal, yn ymladd yn Sbaen, lle enillodd lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd ef mewn brwydr, daeth brawd-yng-nghyfraith Hannibal, Hasdrubal Hardd, yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen. Pan laddwyd ef yn (221 CC), cyhoeddodd y fyddin Hannibal yn arweinydd, a chadarnhawyd hyn gan lywodraeth Carthago. Daeth Hannibal yn enwog yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig, a ddechreuodd yn Sbaen yn 218 CC. Penderfynodd Hannibal ymosod ar yr Eidal, ac arweiniodd fyddin oedd yn cynnwys eliffantod dros yr Alpau i ogledd yr Eidal. Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau Trebia, Trasimene a Cannae. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.
Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinas Capua at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn 207 CC gorchfygwyd a lladdwyd ei frawd Hasdrubal Barca pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..
Yn 203 CC, gorfododd ymosodiad Rhufeinig ar Ogledd Affrica dan arweiniad Scipio Africanus ef i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym Mrwydr Zama.
Bu raid i Carthago ildio i’r Rhufeiniaid, a derbyn y telerau a osodwyd gan Rufain. Etholwyd Hannibal yn suffet, ac am gyfnod bu’n rheoli Carthago yn effeithiol iawn. Llwyddodd i wella sefyllfa Carthago yn sylweddol, ond dychrynodd hyn y Rhufeiniaid, ac yn 195 CC mynasant fod Hannibal yn cael ei ildio iddynt fel carcharor. Bu raid i Hannibal ffoi o’r ddinas a bu’n byw yn llys Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd yn Syria, lle bu’n gynghorydd Antiochus yn ei ryfel yn erbyn Rhufain. Pan orchfygwyd Antiochus, bu raid i Hannibal ffoi i Bithynia. Mynnodd y Rhufeiniaid fod Hannibal yn cael ei drosglwyddo iddynt hwy fel carcharor, ac i osgoi hyn, lladdodd ei hun trwy gymryd gwenwyn.