Harri Potter (cymeriad)

Daniel Radcliffe fel Harry Potter
yn Harry Potter and the Order of the Phoenix.

Harry James Potter yw enw un o gymeriadau dychmygol y gyfres Harry Potter o'r un enw gan J. K. Rowling. Mae'r gyfres yn disgrifio saith mlynedd ym mywyd y bachgen amddifad hwn: yn un-ar-ddeg oed mae'n dod i wybod am ddewiniaeth. Mynycha Ysgol Dewiniaeth a Gwrachyddiaeth Hogwarth i ddysgu a gwella ei alluoedd goruwchnaturiol. Ei Brifathro caredig yno ydy Albus Dumbledore a sylweddola ei fod eisoes yn enwog gan fod ei ddyfodol wedi'i glymu'n sownd wrth Lord Voldemort, Dewin Du a'r cymeriad a lofruddiodd rhieni Harry.

Tra ei bod ar trên hwyr o Fanceinion i King's Cross Llundain yn 1990, chwipiodd y cymeriad (a'r gyfres) drwy ddychymyg Rowling. Dywedodd mai'r hyn a welodd yn wreiddiol oedd bachgen penddu, gyda sbectol na wyddai am ei alluoedd cyfrin.[1] Tra'n datblygu'r syniad hwn penderfynodd fod yn rhaid i Harri fod yn blentyn amddifad a oedd yn ddisgybl preswyl mewn ysgol o'r enw Hogwarth. Mewn cyfweliad yn y The Guardian yn 1999 dywedodd: "Harry had to be an orphan  — so that he's a free agent, with no fear of letting down his parents, disappointing them ... Hogwarts has to be a boarding school  — half the important stuff happens at night! Then there's the security. Having a child of my own reinforces my belief that children above all want security, and that's what Hogwarts offers Harry."[2]

  1. "Joanne Rowling – the girl who grew up to write Harry Potter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-01. Cyrchwyd 5 Mawrth 2007.
  2. "Carey, Joanna. "Who hasn't met Harry?". The Guardian. 16 February 1999. Cyrchwyd 15 August 2007.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy