Hedd Wyn | |
---|---|
Ffugenw | Hedd Wyn |
Ganwyd | Ellis Humphrey Evans 13 Ionawr 1887 Trawsfynydd |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1917 Ieper |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cysylltir gyda | Yr Ysgwrn |
Perthnasau | Gerald Williams |
Gwobr/au | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Y Rhyfel Byd Cyntaf: Hedd Wyn | |
HWB | |
Hedd Wyn | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 – 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Lladdwyd ef ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl ei farwolaeth.
Mae ymhlith cenhedlaeth o feirdd a llenorion a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cael ei weld fel un o ‘feirdd rhyfel’ yr adeg honno. Roedd rhyfel wedi eu hysgogi i ysgrifennu barddoniaeth a llenyddiaeth a oedd yn cyfleu erchylltra’r ymladd ac oferedd rhyfela.[1]