Hedd Wyn (ffilm)

Hedd Wyn
Teitl amgen Hedd Wyn – The Armageddon Poet
Cyfarwyddwr Paul Turner
Cynhyrchydd Shân Davies
Ysgrifennwr Alan Llwyd
Paul Turner
Cerddoriaeth John E. R. Hardy
Sinematograffeg Ray Orton
Sain Julie Ankerson
Dylunio Jane Roberts
Martin Morley
Cwmni cynhyrchu Pendefig Cyf.
Amser rhedeg 123 munud

Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Cynhyrchwyd y ffilm yng Nghymru gan gwmni Pendefig Cyf dan ofal y cyfarwyddwr Paul Turner.

Sgriptiwyd y ffilm gan y bardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol Gwae fi fy myw, cofiant Hedd Wyn. Cafodd llawer o'r golygfeydd eu saethu ar leoliad yn ardal Trawsfynydd, de Gwynedd, pentref genedigol Hedd Wyn. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y golygfeydd swynol o gefn gwlad bugeiliol Meirion a'r golygfeydd cignoeth o erchylltra'r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn, yn un o gryfderau'r ffilm.

Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2005 mewn casgliad o ffilmiau gan S4C.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy