Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | Llid y bledren, clefyd heintus, clefyd y system wrinol, clefyd heintus bacterol, clefyd |
Symptomau | Hematuria, y dwymyn, dysuria, poen yn yr abdomen, frequent urination |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Haint yw heintiad y llwybr wrinol sy'n effeithio ar ran o'r llwybr wrinol.[1] Pan mae'n effeithio ar y llwybr wrinol isaf, caiff ei adnabod fel llid y bledren (cystitis) a phan fo'n effeithio ar y llwybr wrinol uchaf caiff ei adnabod fel haint yr arennau (pyelonephritis).[2] Mae symptomau o haint y llwbr wrinol isaf yn cynnwys poen wrth ollwng dŵr, gollwng dŵr yn aml, a theimlo'r angen i ollwng dŵr yn aml, a theimlo'r angen i ollwng dŵr er bod y bledren yn wag. Mae symptomau o haint yr arennau yn cynnwys gwres a phoen abdomenol fel arfer yn ogystal â symptomau heintiad y lwybr wrinol isaf. Gall yr wrin yn ymddangos yn waedlyd, ond yn anaml. Mewn pobl ifanc iawn a hen iawn, gall y symptomau fod yn annelwig.[3]
Yr achos mwyaf cyffredin o haint yw Escherichia coli, er gall bacteria arall neu gall fod o achos ffwng, ond yn anaml. Mae ffactorau risg yn cynnwys anatomi benywaidd, rhyw, clefyd y siwgr, gordewdra, a hanes teuluol. Er bod rhyw yn ffactor risg, ni chaiff heintiadau y llwybr wrinol eu categoreiddio fel haint a drosglwyddir yn rhywiol.[4] Mae haint yr arennau, os yw'n digwydd, fel arfer yn dilyn llid y bledren ond gall hefyd fod o ganlyniad o heintiad a gludir gan waed.[5] Gall diagnosis mewn menywod ifanc a iach fod yn seiliedig ar symptomau'n unig.[6] Yn y rheiny sydd â symptomau annelwig, gall diagnosis fod yn anodd oherwydd gall bacteria fod yn bresennol heb fod yno haint.[7] .
Mewn achosion nad ydynt yn gymhleth, caiff heintiadau'r llwybr wrinol eu trin â chwrs byr o wrthfiotigau megis nitroffwrantoin neu trimethoprim/sulfamethoxazole. Mae ymwerthedd i'r nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir i drin y cyflwr hwn yn cynyddu. Mewn achosion cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen cwrs hirach neu wrthfiotigau mewnwythiennol. Os nad yw symptomau'n gwella mewn dau neu dri diwrnod, mae'n bosibl y bydd angen rhagor o brofion diagnostig.[8] Gall Ffenasopyridin helpu â symtpomau. Yn y rheiny sydd â bacteria neu gelloedd gwaed gwyn yn eu wrin, ond nid oes ganddynt symptomau, yn gyffredinol nid oes angen gwrthfiotigau,[9] oni bai eu bod yn feichiog.[10] Yn y rheiny sy'n cael eu heintio'n aml, gellir cymryd cwrs byr o wrthfiotigau cyn gynted â bo symptomau'n dechrau, neu gellir defnyddio cwrs hir o wrthfiotigau fel cam ataliol.[11]
Mae oddeutu 150 miliwn o bobl yn datblygu heintiad y llwybr wrinol bob blwyddyn.[12] Maent yn fwy cyffredin mewn menywod na dynion. Mewn menywod, nhw yw'r ffurf mwyaf cyffredin o heintiad bacterol.[13] Mae hyd at 10% o fenywod yn cael heintiad y llwybr wrinol mewn blwyddyn, a 50% o fenywod yn cael o leiaf un heintiad yn eu bywyd. Maent yn digwydd amlaf rhwng 16 a 35 oed.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)