Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 8,113, 8,130 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 393.75 ha |
Cyfesurynnau | 53.291°N 3.704°W |
Cod SYG | W04000134 |
Cod OS | SH864784 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Tref arfordirol fechan yng nghymuned Bae Colwyn, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Hen Golwyn[1] (Saesneg: Old Colwyn).[2] Gorwedd Parc Eirias a phencadlys Heddlu Gogledd Cymru rhwng y pentref a Bae Colwyn. Mae ganddo boblogaeth o 7,626 (Cyfrifiad 2001).
Mae priffordd yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r môr. Rhed yr hen briffordd drwy ganol y pentref gan ei gysylltu â Bae Colwyn tua milltir i'r gorllewin a Llanddulas ac Abergele i'r dwyrain. Mae lôn yn arwain i fyny o ganol Hen Golwyn i gyfeiriad Llaneilian-yn-Rhos a bryniau Rhos i'r de.
Colwyn oedd enw gwreiddiol y pentref, a dim ond yn y 19g wrth i Fae Colwyn dyfu yn dref glan môr y daethpwyd i'w alw'n 'Hen Golwyn'. Dydy Hen Golwyn ddim yn arbennig o hen, felly! Tyfodd yn y 19g diolch i dwf Bae Colwyn ei hun ac fel pentref ar gyfer gweithwyr yn chwareli Llysfaen, gerllaw. Mae llawer o dai'r pentref yn rhai diweddar a godwyd ar gyfer pobl yn symud i ymddeol yn y rhan hon o ogledd Cymru, o ddinasoedd gogledd-orllewin Lloegr yn bennaf.