Plas Hengwrt tua 1875 | |
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Stad Hengwrt |
Sir | Dolgellau |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.752039°N 3.899727°W |
Cod OS | SH718188 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasty ger Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw Hengwrt. Gorwedd i'r gogledd-orllewin o Ddolgellau ger Abaty Cymer, ger cymer Afon Mawddach ac Afon Wnion.
Mae'n enwog yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel cartref i un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig. Daeth y llawysgrifau hyn i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt yn ystod yr 17g. Roeddent yn cynnwys trysorau fel Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Aneirin, ynghyd â thestunau o Brut y Tywysogion a llyfrau cyfraith. Roedd y casgliad yn cynnwys copi cynnar pwysig o waith Chaucer hefyd, a adnabyddir fel yr "Hengwrt Chaucer" neu, yn gamarweiniol, yr "Hengwrt Manuscript".
Arhosodd y llawysgrifau hyn yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfrau yno yn 1696. Bu nifer o hynafiaethwyr y 18g a dechrau'r 19g yn ymweld â'r plasty i gael gweld a chopïo'r llawysgrifau, yn cynnwys Ieuan Fardd, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg. Etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.
Enwir ystafell arddangos Hengwrt, sy’n arddangos llawysgrifau prin y Llyfrgell Genedlaethol, ar ôl Hengwrt.
Mae'r Hengwrt yn cael ei grybwyll yn y nofel Y Stafell Ddirgel, gan Marion Eames.