Henry Cavill

Henry Cavill
GanwydHenry William Dalgliesh Cavill Edit this on Wikidata
5 Mai 1983 Edit this on Wikidata
Saint Helier Edit this on Wikidata
Man preswylKensington, Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Baratoi Sant Mihangel, Jersey
  • Ysgol Stowe Edit this on Wikidata
Galwedigaethmodel, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan, cynhyrchydd ffilm, actor Edit this on Wikidata
Taldra1.85 metr Edit this on Wikidata
PartnerEllen Whitaker, Gina Carano Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr MTV i'r Arwr Gorau, Golden Raspberry Award for Worst Screen Couple/Ensemble Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Mae Henry William Dalgliesh Cavill (ganed 5 Mai 1983) yn actor Prydeinig. Dechreuodd Cavill ei yrfa'n serennu fel Albert Mondego yn yr addasiad ffilm 2002 The Count of Monte Cristo. Aeth yn ei flaen i berfformio mewn rolau cefnogol mewn cyfresi teledu y BBC megis The Inspector Lynley Mysteries, Midsomer MurdersThe Tudors cyn symud at berfformio mewn ffilmiau Hollywood megis Tristan & Isolde, Stardust ac Immortals.

Yn 2008, daeth Cavill yn wyneb a llefarydd swyddogol yr ymgyrch Dunhill, casgliad persawrau i ddynion. Fe'i gastiwyd fel aelod o gast ensemble y gyfres Showtime The Tudors yn 2007, yn serennu fel Charles Brandon, Dug 1af Suffolk tan diwedd y gyfres yn 2010. Daeth Cavill i amlygrwydd rhyngwladol ar ôl iddo gael ei gastio yn 2013 fel yr archarwr Superman yn y fersiwn newydd o'r gyfres ffilmiau, sy'n rhan o'r Bydysawd Estynedig DC. Roedd ffilm gyntaf y gyfres, Man of Steel, yn llwyddiant mawr, gyda Cavil yn ailgydio yn y rôl yn 2016 ar gyfer Batman v Superman: Dawn of Justice. Yn 2015, cyd-serennodd gydag Armie Hammer yn y ffilm gynllwyn The Man from U.N.C.L.E.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy