हिमालय (Himālaya) | |
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid, Larger Himalaya |
Gwlad | Nepal, Myanmar, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Pacistan, India, Affganistan, Bhwtan |
Arwynebedd | 600,000 km² |
Uwch y môr | 8,848.86 metr |
Cyfesurynnau | 29°N 84°E |
Hyd | 2,400 cilometr |
Cyfnod daearegol | Ëosen |
Mae mynyddoedd yr Himalaya (Sanscrit: हिमालय ) yn gadwyn o fynyddoedd yn Asia, sy'n gwahanu gwastadeddau isgyfandir India oddi ar Lwyfandir Tibet. Defnyddir yr enw hefyd am yr holl fynyddoedd yn yr ardal yma, yn cynnwys y Karakoram a'r Hindu Kush.
Yn yr Himalya mae mynyddoedd uchaf y byd. Y mynydd uchaf yn y byd tu allan i'r Himalaya yw Aconcagua yn yr Andes, sy'n 6,962m o uchder, ond yn yr Himalaya mae dros gant o fynyddoedd dros 7,200m o uchder. Mae'r Himalaya yn rhedeg drwy chwe gwlad: Bhwtan, Tsieina, India, Nepal, Pacistan ac Affganistan. Yn y mynyddoedd hyn mae tarddle nifer o afonydd mawr y byd megis yr Indus, cy Ganga, y Brahmaputra a'r Yangtze. Maent yn ymestyn am tua 2,400km o Nanga Parbat (Pacistan) yn y gorllewin i Namche Barwa yn y dwyrain.
Mewn cyferbyniad, mae'r copa uchaf y tu allan i Asia (Aconcagua, yn yr Andes) yn 6,961 metr (22,838 tr) o uchder.[1]
Mae anghydfod ynghylch sofraniaeth y gadwen o fynyddoedd yn Kashmir a hynny rhwng India, Pacistan a Tsieina.[2] Mae mynyddoedd yr Himalaya'n ffinio â'r gogledd-orllewin gan gadwynau Karakoram a Hindu Kush, i'r gogledd gan Lwyfandir Tibet, ac i'r de gan Wastadedd Indo-Gangetig. Mae rhai o brif afonydd y byd, yr Indus, y Ganga, a'r Tsangpo - Brahmaputra, yn codi yng nghyffiniau'r Himalaya, ac mae eu basn draenio cyfun yn gartref i ryw 600 miliwn o bobl gyda 53 miliwn yn byw yn yr Himalaya.[3] Dylanwadodd yr Himalaya yn gryf ar ddiwylliannau De Asia a Tibet, gyda llawer o'r copaon yn gysegredig mewn Hindŵaeth a Bwdhaeth.