Himno Nacional de El Salvador

Anthem genedlaethol gweriniaeth Canolbarth America El Salfador yw Himno Nacional de El Salvador (Sbaeneg am Anthem Genedlaethol El Salfador). Ysgrifennodd y Cadfridog Juan José Cañas y geiriau a chyfansoddodd Juan Aberle y dôn yn 1856. Mabwysiadwyd fel cân genedlaethol y wlad ar 15 Medi 1879, a chydnabuwyd yn swyddogol gan y llywodraeth ar 11 Rhagfyr 1953. Mae tri pennill gan y gân, ond fel arfer dim ond y cytgan a'r pennill cyntaf cânt eu canu.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy