Hominidae Amrediad amseryddol: Mïosen-Holosen, 14–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Dau hominid: Bod dynol (Homo sapiens) a tsimpansî cyffredin (Pan troglodytes) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Uwchdeulu: | Hominoidea |
Teulu: | Hominidae
|
Teip-enws | |
Homo Linnaeus, 1758 | |
Genws | |
Teulu o epaod mawr a nodweddir gan wyneb di-flew gyda gwefusau ymwthiol a dwylo gydag olion bysedd cymhleth ac ewinedd gwastad yw'r Hominidae (hefyd: epaod mawr neu hominidau), sy'n cynnwys saith rhywogaeth mewn 4 genws: Pongo, orangwtang Borneo, orangwtang Sumatra; Gorila, gorila gorllewinol, gorila'r Dwyrain; Pan, y tsimpansî cyffredin a bonobo; a Homo, sef bod dynol.[1]
Gyda darganfyddiadau archaeolegol newydd, mae'r dosbarthiad gwyddonol yn newid yn aml, ac mae union ddiffiniad y gair hominid hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. At fodau dynol (Homo) a'u perthnasau agos yn unig y cyfeiriai ar y cyhwyn. Bellach defnyddir y term 'hominin' i'w disgrifio y grŵp hwn. Erbyn yr 21ain ganrif roedd y gair 'hominid' yn cynnwys yr 'epaod mawr' i gyd, gan gynnwys bodau dynol.
Trigodd yr hynafiaid cyffredin agosaf i'r presennol oddeutu 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP)[2] pan wahanodd hynafiaid yr orangwtang o linell y tri genera arall.[3] Roedd hynafiaid y teulu Hominidae eisioes wedi gwahanu o deulu'r Hylobatidae (y giboniaid), rhwng 15 a 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[3][4]
|accessdate=
(help)