Homininae Amrediad amseryddol: 8–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Gorila Gorllewinol (Gorilla gorilla) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primatau |
Inffra-urdd: | Simiiformes |
Uwchdeulu: | Hominoidea |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae John Edward Gray, 1825 |
Genera | |
Isdeulu'r epaod mawr yw Homininae, sy'n cynnwys y llwythi Hominini a Gorillini. Gyda'i gilydd maent yn cynnwys bodau dynol a nifer o ddynolion diflanedig, y tsimpansî, y bonobo a'r gorilaod. Mae'r isdeulu hwn hefyd yn cynnwys pob epa mawr a ddatblygodd wedi i'r is-deulu o orangwtangiaid (neu ‘hen wŷr y coed’) sef y Ponginae hollti o linell yr epaod.
Mae gan y cladogram Homininae dair prif gangen, sy'n arwain at: gorilaod, dynolion a tsimpansîaid. Gwnaed hynny drwy esblygu dros amser drwy lwyth yr Hominini a'r islwythi Hominina a Panina, (gweler y siart isod). Ceir sawl rhywogaeth byw o tsimpansîaid a gorilaod ond dim ond un rhywogaeth byw o ddynolion, sef y bod dynol. Darganfuwyd olion o ddynolion diflanedig o deulu'r Homo gan gynnwys Homo floresiensis a Homo denisova, prin 12,000 o flynyddoedd yn ôl (CP). Disgrifir organebau yn y dosbarth hwn yn epaod Affrica (sy'n hollol wahanol i'r epaod mawr Hominidae a'r epaod dynaidd Hominini).