Homo floresiensis Amrediad amseryddol: 94–13 Ka | |
---|---|
Model-gopi o benglog Homo floresiensis | |
Dosbarthiad gwyddonol (ceir anghytundeb) | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Deudroedolion Primates |
Teulu: | Hominidae |
Llwyth: | Hominini |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | †H. floresiensis |
Enw deuenwol | |
†Homo floresiensis Brown et al., 2004 | |
Flores yn Indonesia, mewn coch |
Rhywogaeth o hominin sydd wedi darfod amdani yw Homo floresiensis ("Dyn Flores"; llysenw: "yr hobit" a "Flo"); credir fod y rhywogaeth hon o fewn y genws Homo. Yn 2003 darganfuwyd esgyrn naw unigolyn; credir y byddai'r oedolion yn 3.5 troedfedd (1.1 metr) o daldra ar ynys Flores yn Indonesia. Un benglog cyfan a gafwyd, a adnabyddir fel "LB1".[1][2] Ers hynny ymchwiliwyd yn fanwl i'r gweddillion hyn i geisio penderfynu a ydynt yn rhywogaeth sydd ar wahân i fodau dynol modern.
Mae gan yr hominin hwn gorff ac ymennydd bychan iawn a chredir y bu iddynt oroesi hyd at 12,000 o flynyddoedd CP.[3] Mae hyn yn eu gwneud y rhywogaeth o fodau dynol 'non-H.' i oroesi hiraf, gan oroesi ymhell ar ôl i'r Neanderthal (H. neanderthalensis) beidio a bodoli, sef rhwng tua 39,000 a 41,000 CP.[4]
Wrth ochr y gweddillion hyn roedd offer carreg a ellir eu dyddio i rhwng 94,000 a 13,000 cyn y presennol. Cred ambell ysgolor y gallai hanes yr H. floresiensis fod yn rhan o gof y genedl, yn gysylltiedig gyda chwedloniaeth am fath o dylwyth teg lleol ar yr ynys a alwyd yn 'ebu gogo'.[5]