Homo habilis Amrediad amseryddol: 2.865–1.5 Miliwn o fl. CP Pleistosen cynnar | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. habilis |
Enw deuenwol | |
Homo habilis Leakey et al, 1964 | |
Cyfystyron | |
Australopithecus habilis |
Roedd Homo habilis ("Dyn celfydd") yn rhywogaeth o'r genws Homo a oedd yn byw rhwng 2.8 miliwn a 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP), yn ystod y Plïosen Hwyr a'r Pleistosen Cynnar. Tarddoodd o'r australopithecines ac esblygodd yn Ne a Dwyrain Affrica. O ran ymddangosiad a morffoleg, dyma'r rhywogaeth lleiaf tebyg i fodau dynol y presennol.[1] Mae cilddannedd Homo habilis yn llai na dannedd yr australopithecines', a'i ymennydd yn fwy; roedd ganddynt hefyd y gallu i wneud a defnyddio oofer llaw o garreg ac esgyrn anifail. Dyma darddiad ei enw "dyn clyfar".
Roedd yn byw yn Nwyrain Affrica, ac roedd yn llai na dyn modern, gyda thaldra rhwng 1.20 m a 1.55 m. Cred rhai ei fod yn rhy gyntefig i'w roi yn y genws Homo, ac yn dylai fod yn y genws Australopithecus. Credir o ddarganfyddiadau yn ardal Llyn Turkana fod Homo habilis a Homo erectus ill dau yn byw yn yr ardal tua 1.5 neu 1.4 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i ffosiliau o benglogau rhywogaeth arall yn yr ardal hon, sef Homo rudolfensis a gydoesai gyda 'Homo habilis tua 1.9 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Yr Homo habilis yw un o'r hominins cynharaf. Cred rhai Paleoanthropolegwyr y dylid symud y rhywogaeth hwn allan o Homo ac at yr Australopithecus, gan fod morffoleg ei ysgerbwd yn awgrymu mai yn y coed roedd ei gynefin, yn hytrach nag ar ddwy goes fel Homo sapiens.[2]