Huntingdon

Huntingdon
Mathplwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolHuntingdonshire
Poblogaeth23,732, 25,432 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iWertheim, Salon-de-Provence Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaergrawnt
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd11.19 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Great Ouse Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3364°N 0.1717°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012030, E04001716 Edit this on Wikidata
Cod OSTL245725 Edit this on Wikidata
Cod postPE29 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Huntingdon.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Huntingdonshire.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 23,732.[2]

Yn hanesyddol, tref sirol Swydd Huntingdon oedd hi, ond adeg ail-drefnu llywodraeth leol ym 1965 a 1974, cyfunwyd Swydd Huntingdon, Peterborough a Swydd Gaergrawnt. Maent bellach yn rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt, ac felly'n "ardal weinyddol" o ran llywodraeth leol. Mae tref Huntingdon yn dal i weithredu fel canolfan weinyddol ardal Swydd Huntingdon gynt. Mae tua 20,000 o bobl yn byw yn y dref. Saif ar Afon Ouse Fawr yn agos i drefi marchnad eraill yr ardal, St Ives a St Neots. Mae Caerdydd 227.2 km i ffwrdd o Huntingdon ac mae Llundain yn 91.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caergrawnt sy'n 26 km i ffwrdd.

Hen Bont Huntingdon sy'n cysylltu Huntingdon (ar y dde) â Godmanchester (ar y chwith)

Ganwyd Oliver Cromwell yn y dref yn 1599, ac fe'i cynrychiolodd yn Nhŷ'r Cyffredin am ddwy flynedd o 1628 i 1629. Lleolir Amgueddfa Cromwell yn ei hen ysgol ramadeg yng nghanol Huntingdon. Ei thrigolyn enwog arall yw John Major, prif weinidog Prydain o 1990 tan 1997, ac aelod seneddol dros Swydd Huntingdon o 1979 i 1983 a thros Huntingdon o 1983 i 2001.

  1. British Place Names; adalwyd 10 Ebrill 2020
  2. City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in