Academydd yw'r Athro Iain McLean sydd yn athro gwleidyddiaeth yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen.
Roedd yn ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne (1971–8), yn gymrawd ac yn praelector gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen (1978–91), ac yn athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Warwick (1991–3).[1]
Arweiniodd prosiect ym 1998–2000 i ymchwilio i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan.[2]
Mae'r Athro McLean hefyd yn is-gadeirydd ac yn yrrwr locomotif Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion.[1]