Iestyn ap Gwrgant | |
---|---|
Ganwyd | 1045 Teyrnas Glywysing |
Bu farw | 1093 Rhiwbeina |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Blodeuodd | 1081 |
Tad | Gwrgant ab Ithel |
Mam | Nn ferch Cynfyn ap Gwerystan ap Gwaithfoed |
Plant | Caradog ab Iestyn, Nest ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Catrin ferch Iestyn ap Gwrgan, Madog ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel o Ruthion, Gruffudd ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Gwenllian ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Rhydderch ab Iestyn ap Gwrgan, Rhys ab Estyn ap Gwrgan ab Ithel o Resolfen |
Iestyn ap Gwrgant (1045-1093) oedd brenin olaf Morgannwg. Roedd yn fab i Gwrgant o Forgannwg. Roedd yn un o ddisgynyddion Arglwyddi Afan.
Daeth Morgannwg o dan ei feddiant yn sgil marwolaeth Caradog ap Gruffudd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081. Teyrnasodd am ddegawd neu ddau'n unig a chipwyd Morgannwg oddi wrtho gan Robert Fitz Hammo yn y 1090au pan syrthiodd Iestyn mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn ardal Rhiwbeina (rhan o ddinas Caerdydd heddiw). Wedi'i farwolaeth daeth yr enw 'Iestyn' yn enw poblogaidd drwy Forgannwg a thu hwnt.[1]