Ilhan Omar | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1982 Mogadishu |
Man preswyl | Minneapolis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Somalia |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, political staffer, gwas sifil, ymgyrchydd dros hawliau merched, policy advisor |
Swydd | member of the Minnesota House of Representatives, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | This is What America Looks Like |
Plaid Wleidyddol | Minnesota Democratic–Farmer–Labor Party, plaid Ddemocrataidd |
Tad | Nur Omar Mohamed |
Plant | Isra Hirsi |
Gwobr/au | OkayAfrica 100 Benyw, OkayAfrica 100 Benyw |
Gwefan | https://ilhanomar.com/ |
Mae Ilhan Omar (ganwyd 4 Hydref 1981) yn wleidydd ac ymgyrchydd Somali-Americanaidd a'r Somaliad-Americanaidd cyntaf i'w hethol i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau[1] Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, ac wedi cynrychioli '5ed ardal gyngresol Minnesota' yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ers 3 Ionawr 2019, ardal sy'n cynnwys dinas Minneapolis a rhai o'i maesdrefi.[2][3][4]
Fel aelod o'r grŵp Congressional Progressive Caucus, bu'n ymgyrchydd gweithgar dros gyflog byw, tai fforddiadwy, gofal iechyd, dileu'r angen i ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ayb. Ar y llaw arall mae hi wedi bod yn lladmerydd brwd yn erbyn rhai o bolisiau yr Arlywydd Donald Trump, yn enwedig ei bolisi ar fewnfudo, sef yr hyn a elwir yn Trump travel ban.