Injan

Peiriant tanio mewnol V6 o gar Mercedes.
Injan Boulton & Watt; 1788
Animeiddiad o'r injan 4-stroc:
1. Mewnsugnad (tanwydd i fewn)
2. Cywasgiad
3. Tanio (llosgir y tanwydd)
4. Allyrru (exhaust)

Peiriant ydy injan a gynlluniwyd er mwyn trawsnewid un math o ynni yn ynni mecanyddol, symudol. Mae'r injan, fel arfer, yn llosgi tanwydd er mwyn creu gwres, sydd yn ei dro'n creu grym symudol. Mae'r motor trydan yn fath o injan yn yr ystyr ei fod yn trawsnewid ynni trydanol yn symudiad mecanyddol. Gellir dweud, felly, fod y tegan a weindir ei sbring yn fath o injan, gan fod un math o ynni'n cael ei drawsnewid yn fath arall. Felly hefyd, mewn bioleg, gellir dweud mai injan ar ryw ystyr ydyw'r miosin yn y cyhyrau sy'n defnyddio ynni cemegol i greu egni, ac yna symudiad.

Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae'r gair 'injan' fel arfer yn cyfeirio at fath arbennig o beiriant sy'n defnyddio tanwydd i greu symudiad e.e. injan car, injan stêm, injan ddyrnu neu injan wnïo. Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn 1757 fel bathiad amrwd o'r Saesneg gan rai o deulu Morysiaid Môn: engine ddŵr ag engine wynt ac yna gan Wiliam Williams, Pantycelyn yn 1762-79 (P 321): Hwy a oddefasant y Rhufeiniaid i osod i fynu eu hengins ar ddydd Sabbath. Ar y llaw arall, gair modern iawn ydy motor neu 'fodur' na fathwyd tan 1909.[1] Gellir dweud fod 'injan' a 'motor' yn ddau 'beiriant'. Mae'r gair 'injan' yn tarddu o'r Lladin ingenium.

  1. geiriadur.ac.uk Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC);] adalwyd 25 Mawrth 2016

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy