Iolo Ceredig Jones

Iolo Ceredig Jones
Ganwyd2 Awst 1947 Edit this on Wikidata
Llandysul, Coed-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, llenor Edit this on Wikidata
TadT. Llew Jones Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol o Gymru oedd Iolo Ceredig Jones (ganwyd 2 Awst 19476 Medi 2021).[1][2] Ef yw cyd-awdur yr unig lawlyfr gwyddbwyll yn y Gymraeg, A Chwaraei di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980), a ysgrifennodd gyda'i dad, T. Llew Jones.

Cystadlodd Jones mewn 16 Olympiad Gwyddbwyll, gan chwarae mewn 14 yn olynol rhwng 1972 ac 1998. Enillodd y fedal aur am ei berfformiad yn Olympiad Novi Sad, Yugoslavia, ym 1990. Bu hefyd yn gyd-bencampwr Cymru ym 1982-3. Yn 2013 derbyniodd y teitl Meistr FIDE (FM) sydd fel arfer yn cael ei roi gan FIDE i chwaraewyr sy'n ennill gradd ELO o 2300 neu fwy.

Mae hefyd yn frawd i'r ymgyrchydd gwleidyddol, Emyr Llewelyn.

  1.  Iolo Ceredig Jones, archif o'i emau. New In Chess.
  2.  Y cyn-chwaraewr gwyddbwyll Iolo Ceredig Jones wedi marw. Golwg 360 Cymru (6 Medi 2021).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in