Gweriniaeth Irac جُمْهُورِيَّة ٱلْعِرَاق (Arabeg) | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Baghdad |
Poblogaeth | 38,274,618 |
Sefydlwyd | 3 Hydref 1932 (Datganiad o Annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Gyfunol) 14 Gorffennaf 1958 (Gweriniaeth) |
Anthem | Mawtini |
Pennaeth llywodraeth | Mohammed Shia' Al Sudani |
Cylchfa amser | UTC+03:00, UTC+04:00, Asia/Baghdad |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Cyrdeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Gwlad | Irac |
Arwynebedd | 437,072 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Twrci, Syria, Gwlad Iorddonen, Sawdi Arabia, Coweit, Iran |
Cyfesurynnau | 33°N 43°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Cynrychiolwyr Irac |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Irac |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdul Latif Rashid |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Irac |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed Shia' Al Sudani |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $207,692 million, $264,182 million |
Arian | Iraqi dinar |
Canran y diwaith | 30 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.566 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.686 |
Gwlad yn y Dwyrain Canol yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Fesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Ciwait i'r de, Gwlad Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Ystyrir Irac fel y man lle ymddangosodd y gymdeithas sefydlog gyntaf yn y byd gyda holl nodweddion "gwareiddiad" – sef gwareiddiad hynafol Swmeria. Bu Irac o dan chwydd wydyr y byd yn y 1990au a'r 2000au oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff ac ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn yr ardal gan gynnwys dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, ffurfio llywodraeth ddemocrataidd newydd a'r gwrthdaro gwleidyddol ac ethnig sydd wedi rhwygo'r wlad byth ers hynny.