Mae iselder ysbryd yn afiechyd meddwl ble mae'r claf yn teimlo'n isel a di-hwyl; yn aml, mae'r afiechyd hwn hefyd yn gwneud iddo deimlo'n wael a dihyder, gan golli diddordeb yn y pethau sydd, fel arfer, yn ei gyffroi.
Yn 1980 gwahaniaethodd Cymdeithas Seiciatreg America ("American Psychiatric Association") rhwng iselder ysbryd dros dro (sef mental depression) ac iselder ysbryd dwys (Sa: Major depressive disorder) yn eu cyfrol "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-III) Classification". Mae iselder ysbryd dwys yn medru analluogi, neu dynnu'r gallu arferol i gyflawni pethau oddi wrth y claf. Gall hyn effeithio teulu'r claf yn drychinebus, a'i waith neu addysg, ei gwsg, yr hyn mae'n ei fwyta a'i iechyd yn gyffredinol. Yn yr Unol Daleithiau, mae 3.4% o'r bobl hynny sydd gan iselder ysbryd dwys yn cyflawni hunanladdiad ac mae gan 60% o'r bobl hynny sy'n cyflawni hunanladdiad iselder ysbryd ar ryw raddfa. Mae sawl astudiaeth wyddonol wedi dod o hyd i gydberthyniadau ystadegol rhwng iselder a rhai plaladdwyr amaethyddol.[1] ]