Porthladd hynafol yn Israel a’r rhan hynaf o ddinas Tel Aviv-Yafo yw Jaffa, Yafo mewn Hebraeg, neu Yaffa mewn Arabeg (hefyd Japho neu Joppa). Mae Jaffa yn cael ei adnabod am ei gysylltiad â hanesion Beiblaidd Jona, Solomon a Pedr ynghyd â stori fytholegol Andromeda a Perseus. Mae hefyd yn enwog am ei orenau, sef orenau Jaffa.
Adeiladwyd Tel Aviv yn wreiddiol yn 1909 fel maestref Iddewig i Jaffa, gan mai tref fwyafrifol Arabaidd oedd Jaffa. Mae Tel Aviv bellach wedi llyncu Jaffa a Jaffa'n faestref i Tel Aviv. Er, enw swyddogol y ddinas yw Tel Aviv-Jaffa (neu Tel Aviv-Yaffo).