Jamaica Jumieka (Jamaiceg (Creole)) | |
Arwyddair | Allan o lawer, un bobl |
---|---|
Math | teyrnas y Gymanwlad, esblygiad tiriogaethol yr Ymerodraeth Brydeinig, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth archipelagig |
Prifddinas | Kingston |
Poblogaeth | 2,697,983 |
Sefydlwyd | 6 Awst 1962 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Jamaica, Land We Love, God Save the King |
Pennaeth llywodraeth | Andrew Holness |
Cylchfa amser | UTC−05:00, America/Jamaica |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Jamaiceg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Caribî, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi |
Gwlad | Jamaica |
Arwynebedd | 10,991.90954 km² |
Gerllaw | Môr y Caribî |
Yn ffinio gyda | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 18.18°N 77.4°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet Jamaica |
Corff deddfwriaethol | Senedd Jamaica |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Jamaica, Llywodraethwr Cyffredinol Jamaica |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III, Elisabeth II |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Jamaica |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrew Holness |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $14,658 million, $17,098 million |
Arian | Jamaican dollar |
Canran y diwaith | 13 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.046 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.709 |
Gwlad ac ynys ym Môr y Caribî ac India'r Gorllewin yw Jamaica (ynganiad Saesneg: /dʒəˈmeɪkə/ (gwrando); Jamaiceg: Jumieka, [dʒʌˈmi̯eka]). Hon ydy'r ynys drydedd fwyaf—ar ôl Ciwba ac Hispaniola—yn yr Antiles Fwyaf a'r Caribî, a chanddi arwynebedd o 10,990 metr sgcilowar (4,240 mi sgw).[1] Lleolir Jamaica tua 145 km (90 mi) i dde Ciwba, 191 km (119 mi) i orllewin Hispaniola (yr ynys sy'n cynnwys Haiti a Gweriniaeth Dominica), a 215 km (134 mi) i dde-ddwyrain Ynysoedd Caiman (un o diriogaethau'r Deyrnas Unedig).[1]
Cyfaneddwyd Jamaica yn gyntaf gan y bobloedd Taíno, ac ystyr yr enw yn yr iaith frodorol yw Ynys y Ffynhonnau. Daeth yr ynys dan reolaeth Ymerodraeth Sbaen yn sgil glaniad Cristoffer Columbus ym 1494, a chafodd nifer o'r brodorion eu lladd gan y Sbaenwyr ac afiechydon newydd a ddygwyd i'r Byd Newydd. Yn ystod cyfnod masnach gaethweision yr Iwerydd, cludwyd niferoedd mawr o Affricanwyr i Jamaica.[1] Bu'r ynys dan reolaeth Sbaen, ac yn dwyn yr enw Santiago, nes i Loegr ei meddiannu ym 1655 a'i hail-enwi'n Jamaica. Dan weinyddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, daeth yr ynys yn rhan bwysig o India'r Gorllewin Brydeinig, a datblygodd economi o blanhigfeydd siwgr a ddibynnai ar barhâd mewnforio Affricanwyr a chadw eu disgynyddion yn gaethweision. Wedi diwedd y fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1807, rhyddhawyd yr holl gaethweision ym 1838, a dewisiodd nifer ohonynt ennill eu bywoliaeth ar ffermydd ymgynhaliol yn hytrach na pharhau i weithio ar yr ystadau mawr. O'r 1840au ymlaen, defnyddiodd y tirfeddianwyr Prydeinig lafurwyr ymrwymedig o Tsieina ac India i weithio ar eu planhigfeydd. Enillodd Jamaica ei hannibyniarth ar y Deyrnas Unedig ar 6 Awst 1962, er iddi barhau'n un o deyrnasoedd y Gymanwlad.[1]
Yn nhermau ei phoblogaeth—2.8 miliwn—Jamaica ydy'r wlad Saesneg drydedd fwyaf yn yr Amerig (ar ôl Unol Daleithiau America a Chanada), y wladwriaeth sofran bedwaredd fwyaf yn y Caribî (ar ôl Haiti, Ciwba, a Gweriniaeth Dominica), a'r ynys bedwaredd fwyaf yn y Caribî (ar ôl Hispaniola, Ciwba, a Phwerto Rico). Prifddinas a dinas fwyaf y wlad yw Kingston, sy'n gartref i 660,000 o drigolion yn ei phlwyf a bron 1.2 miliwn o bobl yn ei hardal fetropolitanaidd. Disgynna'r mwyafrif o Jamaicaid o linach Affricanaidd is-Saharaidd, ac mae hefyd lleiafrifoedd sylweddol o dras Ewropeaidd, Asiaidd Dwyreiniol (yn bennaf Tsieineaidd), Indiaidd, Libanaidd, ac hil gymysg.[1] Allfuda llawer o bobl o'r ynys i wledydd eraill i chwilio am waith ers y 1960au, ac o'r herwydd mae niferoedd mawr o Jamaicaid ar wasgar, yn enwedig yng Nghanada, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau. Serch ei maint cymharol bychan, mae gan y wlad ddylanwad byd-eang nodedig: dyma man geni'r grefydd Rastaffariaeth a chartref cerddoriaeth reggae (a genres cysylltiedig megis dub, ska, a dancehall), ac mae cystadleuwyr Jamaicaidd yn amlwg ym myd chwaraeon rhyngwladol, yn enwedig criced, sbrintio, ac athletau.[2][3][4][5] Caiff Jamaica ei hystyried weithiau yn "uwchbwer diwylliannol" lleiaf poblog y byd.[6][7][8][9]
Gwlad incwm-canol-uwch yw Jamaica[5] gydag economi sy'n ddibynnol yn gryf ar dwristiaeth; ar gyfartaledd mae 4.3 miliwn o dwristiaid yn ymweld â'r wlad bob blwyddyn.[10] Caiff y wlad argraff ffafriol wrth fesur rhyddid y wasg (Mynegai Rhyddid y Wasg), llywodraethiant democrataidd (Mynegai Democratiaeth), a lles cynaliadwy (Mynegai Byd Hapus). Brenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol yw Jamaica gyda grym yn perthyn i'r ddeddfwrfa ddwysiambrog, sy'n cynnwys senedd benodedig a thŷ'r cynrychiolwyr etholedig.[1] Gwasanaetha Andrew Holness yn Brif Weinidog Jamaica ers Mawrth 2016. Fel un o deyrnasoedd y Gymanwlad, Siarl III sy'n dwyn teitl Brenin Jamaica, a phenodir Llywodraethwr Cyffredinol (Patrick Allen ers 2009) i gynrychioli'r Goron yn Jamaica.