Jane Hutt AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Prif Chwip y Llywodraeth | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Julie James |
Yn ei swydd 19 Mai 2016 – 3 Tachwedd 2017 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Janice Gregory |
Dilynwyd gan | Julie James |
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau | |
Yn ei swydd 19 Gorffennaf 2007 – 10 Rhagfyr 2009 | |
Prif Weinidog | Rhodri Morgan |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Leighton Andrews |
Aelod o Senedd Cymru dros Fro Morgannwg | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Manylion personol | |
Ganwyd | Epsom, Lloegr | 15 Rhagfyr 1949
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Priod | Michael Trickey |
Plant | 2 ferch |
Alma mater | Prifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Bryste |
Swydd | Cynghorydd, undebwr llafur |
Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Gwleidydd Seisnig yw Jane Hutt (ganwyd 15 Rhagfyr 1949). Mae'n aelod o'r Blaid Lafur ac yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bro Morgannwg ers 1999.
Ganwyd Hutt yn Epsom, Lloegr; daeth ei nain a'i thaid, a oedd yn Gymry Cymraeg rhugl, o Gymru. Mae Jane hithau'n mynychu gwersi Cymraeg (2018).[1] Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, a Phrifysgol Bryste.
Daeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ei hethol i Gynulliad Cymru a daliodd y swydd tan Ionawr 2005 er gwaethaf tipyn o feirniadaeth. Wedyn symudwyd hi i fod yn Drefnydd Busnes y Cynulliad ac yna daeth yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ers i Carwyn Jones ddod yn Brifweinidog yn 2009, hi oedd Gweinidog dros Gyllid a Busnes. Yna daeth yn Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip.
Ar 3 Tachwedd 2017, gadawodd Lywodraeth Cymru wedi gwasanaethu yn y cabinet am 18 mlynedd.[2] Dychwelodd i'r cabinet yn Rhagfyr 2018 fel Dirprwy Weinidog a Prif Chwip o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.[3]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |