Jane Taylour | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1827 ![]() Stranraer ![]() |
Bu farw | 25 Chwefror 1905 ![]() Saffron Walden ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ![]() |
Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jane E. Taylour (1827 - 25 Chwefror 1905) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched, sef etholfraint.
Fe'i ganed yn Stranraer yn 1827 a bu farw ym mynwent y Crynwyr yn Saffron Walden, Essex.
Roedd Jane E. Taylour yn un o'r merched cyntaf i draddodi darlithoedd cyhoeddus. Teithiodd o gwmpas yr Alban a gogledd Lloegr yn annerch y dorf ar faterion yn ymwneud â hawliau merched, yn enwedig yr ymgyrch dros thoi'r bleidlais iddynt.
Nid oes sicrwydd pa flwyddyn y ganed Taylour, naill ai 1827[1] neu 1828. Fe'i ganed yn Stranraer i Maria Angus a Nathaniel Taylor a buont fyw yn Balfour. Yn 1861 symudodd i Saffron Walden yn Essex, ac yn 1901 gwyddus iddi fod yn byw yno gyda Rachel P. Robson.[2]