Malasana II o'r ffrynt | |
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir yr enw Malasana ar gyfer gwahanol asanas cyrcydu mewn hatha yoga ac ioga modern fel ymarfer corff.[1][2]
Yn draddodiadol, ac yng nghyfrol clasurol BKS Iyengar , sef Light on Yoga, defnyddir y term Malasana, neu'r Goron Flodau, am asana lle mae'r iogi ar ei chwrcwd, gyda'r traed gyda'i gilydd a'r cefn yn fwa crwm. Ceir nifer o amrywiadau lleoli gyda'r dwylo mewn safleoedd amrywiol, gwahanol.[3] Pan fydd y dwylo wedi'u rhwymo (yn 'glwm') o amgylch y cefn gelwir y ystum hwn yn Kanchyasana ("Y Gwregys Aur").[2]
Yn y gorllewin, mae'r enw Malasana hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y "asana cwrcwd" arferol, sef yr Upaveshasana,[4] lle mae cledrau'r dwylo'n cael eu plygu gyda'i gilydd yn null gwedddi (Anjali Mudra) ar y fron, ac mae'r traed wedi'u gosod ar led.
Yn y Sritattvanidhi, rhoddir yr enw Malasana i Bhujapidasana, y "Gwasgiad Ysgwydd", lle mae'r cledrau'n cael eu gosod ar y llawr, y corff yn cydbwyso ar y dwylo, a'r coesau'n gorffwys ar yr ysgwyddau.[5]