Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1929 |
Lleoliad yr archif | Central Zionist Archives |
Prif weithredwr | Doron Almog |
Rhagflaenydd | Palestine Office |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad 501(c)(3) |
Pencadlys | Jeriwsalem |
Gwefan | http://www.jewishagency.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Asiantaeth Iddewig ar gyfer Israel, yn swyddogol Jewish Agency for Israel neu, ar lafar, 'mond Jewish Agency (Hebraeg: הסוכנות היהודית לארץ ישראל, yr wyddor Ladin: HaSochnut HaYehudit L'Eretz Yisra'el) a elwid gynt yn yr Asiantaeth Iddewig dros Balestina,[1] yw'r sefydliad Iddewig di-broffil yn y byd. Fe'i sefydlwyd ym 1929 fel cangen weithredol Sefydliad Seionyddol y Byd (World Zionist Organisation, WZO). Cenhadaeth ddatganedig yr Asiantaeth yw “sicrhau bod pob person Iddewig yn teimlo cwlwm na ellir ei dorri i’w gilydd ac i Israel ni waeth ble maent yn byw yn y byd, fel y gallant barhau i chwarae eu rhan hanfodol yn ein stori Iddewig barhaus.”[2]
Mae'n fwyaf adnabyddus fel y prif sefydliad sy'n meithrin mewnfudo Iddewon mewn alltud i Wlad Israel (a elwir yn aliyah) ac yn goruchwylio eu hintegreiddio â Gwladwriaeth Israel.[3] Ers 1948, mae'r Asiantaeth Iddewig wedi dod â 3 miliwn o fewnfudwyr i Israel,[4] ac yn cynnig tai trosiannol iddynt mewn "canolfannau amsugno" ledled y wlad.[5]
Chwaraeodd yr Asiantaeth Iddewig ran ganolog yn y gwaith o sefydlu a datblygu Gwladwriaeth Israel. Gwasanaethodd David Ben-Gurion fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith o 1935, ac yn rhinwedd y swydd hon ar 14 Mai 1948, cyhoeddodd annibyniaeth Israel,[6] ac wedi hynny gwasanaethodd fel prif weinidog cyntaf Israel. Yn y blynyddoedd cyn sefydlu Israel, bu'r Asiantaeth Iddewig yn goruchwylio sefydlu tua 1,000 o drefi a phentrefi ym Mandad Prydeinig Palestina. Mae'r sefydliad yn gwasanaethu fel y prif gyswllt rhwng Israel a chymunedau Iddewig ar draws y byd.[7][8]
Yn ôl y gyfraith, sefydliad parastataidd yw'r Asiantaeth Iddewig, ond nid yw'n derbyn cyllid craidd gan lywodraeth Israel.[9] Ariennir yr Asiantaeth Iddewig gan Ffederasiynau Iddewig Gogledd America (JFNA), Keren Hayesod, prif gymunedau a ffederasiynau Iddewig, a sefydliadau a rhoddwyr o Israel a ledled y byd.[10] Yn 2008, enillodd yr Asiantaeth Iddewig Wobr Israel am ei chyfraniad hanesyddol i Israel ac i'r gymuned Iddewig ledled y byd.[11]