John Edward Gray | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1800 Walsall |
Bu farw | 7 Mawrth 1875 Llundain |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | biolegydd, swolegydd, adaregydd, casglwr stampiau, botanegydd, pryfetegwr, ymlusgolegydd, malacolegydd, curadur |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The zoology of the voyage of the H.M.S. Erebus & Terror |
Tad | Samuel Frederick Gray |
Priod | Maria Emma Gray |
Perthnasau | Emma Juliana Gray, Sophia Elizabeth Gray |
Gwobr/au | Roll of Distinguished Philatelists, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi |
llofnod | |
Naturiaethwr a swolegydd o Loegr oedd John Edward Gray, FRS (12 Chwefror 1800 – 7 Mawrth 1875). Roedd yn frawd i'r swolegydd George Robert Gray ac yn fab i'r cemegydd Samuel Frederick Gray (1766–1828). Roedd John Edward Gray yn geidwad yr adran swoleg yn Yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain rhwng 1840 a Nadloig 1874. Mae'n nodedig am ddosbarthu a disgrifio rhywogaethau newydd. Cododd broffil casgliadau swolegol yr Amgueddfa i fod yn un o'r gorau'n y byd. Ysgrifennodd dros 497 o bapurau academaidd a thros 500 o lyfrau.[1][2]
Un o'i lyfrau enwocaf yw "Gleanings from the Knowsley Menagerie and Aviary at Knowsley Hall, 1846-50" a ddyluniwyd gan yr arlunydd Edward Lear.
Fe'i ganwyd yn Walsall, Swydd Stafford. roedd cryn ddiddordeb gan y teulu o blanhigion; ei daid a gyfieithodd lyfr enwog Linnæus Philosophia Botanica.
Priododd Maria Emma Smith yn 1826, a bu o gymorth iddo gyda'i sgwennu gwyddonol, a thrwy lunio diagramau addas ar gyfer ei waith o ddosbarthu planhigion. Yn 1833 cyd-sefydlodd The Royal Entomological Society of London. Ar 1 Mai 1840 cyhoeddwyd y Penny Black a phrynodd nifer ohonynt er mwyn eu casglu; oherwydd hyn caiff Gray ei ystyried y casglwr stampiau cyntaf, drwy'r byd.