John Nash | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1752 Lambeth |
Bu farw | 13 Mai 1835 o clefyd East Cowes Castle |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Brydeinig |
Galwedigaeth | pensaer, arlunydd |
Adnabyddus am | All Souls Church, Langham Place, Clarence House, Pafiliwn Brighton, Marble Arch |
Pensaer o Loegr a fu'n byw yng Nghymru am gyfnod oedd John Nash (18 Ionawr 1752 – 13 Mai 1835). Adeiladodd llawer o adeiladau enwog yn Llundain.
Cafodd ei eni yn Llundain ac astudiodd i fod yn bensaer o dan Syr Robert Taylor, ond heb fod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl etifeddu ffortiwn mawr symudodd ef i Gymru. methodd a buddsoddi'n ddoeth a doedd dim arian ar ôl erbyn 1783. O ganlyniad bu rhaid iddo weithio eto fel pensaer gan gynllunio plastai yn y wlad, a chydweithio gyda Humphry Repton, cynllunydd gerddi tirlun. Aeth Nash yn ôl i weithio yn Llundain ym 1792.
Bu'n byw ar Ynys Wyth am flynyddoedd a chafodd ei gladdu yn Cowes.