John Ross (cyhoeddwr)

John Ross
Ganwydc. 1729 Edit this on Wikidata
Yr Alban Edit this on Wikidata
Bu farwHydref 1807 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethargraffydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
PriodUnknown Edit this on Wikidata

Cyhoeddwr ac argraffydd o'r Alban oedd John Ross (1729 - 1 Hydref 1807).

Cafodd ei eni yn Yr Alban yn 1729 a bu farw yng Nghaerfyrddin. Cofir am Ross fel un o'r argraffwyr prysuraf yng Nghymru yn ystod ei gyfnod. Ymhlith y llyfrau iddo gyhoeddi roedd tri argraffiad o Feibl Peter Williams a hefyd llyfr feddygol hynod lwyddiannus, Pob Dyn ei Physygwr ei Hun yn 1771 oedd yn gyfieithiad o lyfr bwysig yn y Saesneg.

Dysgasai ei grefft argraffu yn Llundain, a dechreuodd argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1763 (gyda Rhys Thomas); bu hefyd yn cydargraffu neu gydgyhoeddi ychydig lyfrau â John Daniel yn niwedd y 18g.

Roedd John Ross yn Annibynnwr ac yn un o ymddiriedolwyr capel Heol Awst, 1781, ac yn un o ddau siryf tref Caerfyrddin yn 1785. Bu farw yn wythnos olaf Hydref 1807, yn 78 oed. Bu ei ferch (neu efallai ei chwaer), Ann Scott, yn cadw'r busnes ymlaen am ychydig ar ôl marw ei thad; bu hi farw 24 Medi 1842 yn 107 oed.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy