Johnny Depp

Johnny Depp
GanwydJohn Christopher Depp II Edit this on Wikidata
9 Mehefin 1963 Edit this on Wikidata
Owensboro, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Miramar High School
  • Bournville School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, perchennog clwb nos, gitarydd, actor, cerddor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPirates of the Caribbean Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, ffilm ffantasi, ffilm antur, comedi ramantus Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
TadJohn Christopher Depp Edit this on Wikidata
MamBetty Sue Wells Edit this on Wikidata
PriodLori Allison, Amber Heard Edit this on Wikidata
PartnerSherilyn Fenn, Jennifer Grey, Winona Ryder, Tally Chanel, Kate Moss, Vanessa Paradis, Polina Glen Edit this on Wikidata
PlantLily-Rose Depp, Jack Depp Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr People's Choice, Golden Globes, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gorau, Gwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, 'Disney Legends', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Donostia, Medal of the City of Paris, Orders, decorations, and medals of Serbia, Y César Anrhydeddus, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn Edit this on Wikidata
llofnod

Actor, cynhyrchydd ffilmiau a cherddor Americanaidd yw John Christopher "Johnny" Depp II[1] (ganwyd 9 Mehefin 1963). Mae ef wedi ennill Gwobr Golden Globe a gwobr y Screen Actors Guild am yr Actor Gorau. Daeth Depp i enwogrwydd yn y gyfres deledu o'r 1980au 21 Jump Street, gan ddod yn arwr i nifer o arddegwyr. Fodd bynnag, yn fuan wedi hyn dechreuodd Depp actio rhannau llawer mwy heriol fel y prif gymeriad yn Edward Scissorhands (1990). Yn ddiweddarach chwaraeoedd rannau mewn ffilmiau hynod lwyddiannus fel Sleepy Hollow (1999), Charlie and the Chocolate Factory (2005), Alice in Wonderland (2010), Rango (2011) a'r gyfres o ffilmiau Pirates of the Caribbean (2003–presennol). Mae ef wedi cydweithio gyda'r cyfarwyddwr Tim Burton mewn wyth o ffilmiau; yr un mwyaf diweddar yw Dark Shadows (2012).

Derbyniodd Depp gydnabyddiaeth am ei bortread o bobl fel Ed Wood yn Ed Wood, Joseph D. Pistone yn Donnie Brasco, Hunter S. Thompson yn Fear and Loathing in Las Vegas, George Jung yn Blow, a'r lleidr banc John Dillinger yn ffilm Michael Mann Public Enemies. Mae'r ffilmiau mae Depp wedi serennu ynddynt wedi gwneud dros $3.1 biliwn yn swyddfa docynnau'r Unmol Daleithiau a thros $7.6 biliwn yn fyd eang.[2] Cafodd ei enwebu am nifer o'r proif wobrau ar sawl achlysur, gan ennill Golden Globe am yr Actor Gorau am ei ran yn Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street. Cafodd ei enwi hefyd gan y Guiness Book of World Records yn 2012 fel yr acotr uchaf ei dâl, gyda $75 miliwn.[3]

  1. The Johnny Depp Zone
  2.  Johnny Depp — Box Office Data Movie Star. The-numbers.com.
  3.  Erenza (14 Medi, 2011). Justin Bieber, Miranda Cosgrove, & Lady Gaga Are Welcomed Into 2012 Guinness World Records. RyanSeacrest.com.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy