Jonathan Pryce

Jonathan Pryce
GanwydJohn Price Edit this on Wikidata
1 Mehefin 1947 Edit this on Wikidata
Carmel Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, byrfyfyriwr, actor Edit this on Wikidata
PriodKate Fahy Edit this on Wikidata
PartnerKate Fahy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am Actor Gorau mewn Sioe Gerdd, Drama Desk Award for Outstanding Actor in a Musical, Gwobr Gwyl Ffilmiau Cannes i'r Actor Gorau Edit this on Wikidata

Actor a chanwr o Gymru ydy Syr Jonathan Pryce KBE (ganwyd 1 Mehefin 1947)[1] o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo astudio yn RADA a phriodi'r actores Wyddelig Kate Fahy ym 1974, dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y 1970au. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn ffilm gwlt Terry Gilliam Brazil (1985).

Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean a The New World, yn ogystal â phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy Wobr Tony - y cyntaf ohonynt ym 1977 am ei berfformiad cyntaf ar Broadway yn "Comedians", a'r ail am ei ran fel "y Peiriannydd" yn y sioe gerdd Miss Saigon.

Yn 2015, roedd Pryce yn actor gwadd ar gyfres HBO Game of Thrones yn chwarae'r cymeriad The High Sparrow cyn dod yn actor rheolaidd ar y gyfres yn 2016.

Fe'i urddwyd yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021, am wasanaeth i Ddrama a Gwaith Elusennol.[2]

  1. Chase's Calendar of Events 2020: The Ultimate Go-to Guide for Special Days, Weeks and Months (yn Saesneg). Bernan Press. 2019. t. 304. ISBN 9781641433167.
  2. Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured , WalesOnline, 11 Mehefin 2021. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in