Joseph Parry

Joseph Parry
Ganwyd21 Mai 1841 Edit this on Wikidata
Bwthyn Joseph Parry, Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 1903 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethuriaeth mewn Cerddoriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullopera Edit this on Wikidata
PlantJoseph Haydn Parry Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr a cherddor Cymreig oedd Joseph Parry (21 Mai 184117 Chwefror 1903). Ei enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Pencerdd America; fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865.

Wedi gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda'i deulu yn 1854 i Pensylfania, UDA, lle gweithiodd mewn melin haearn. Cafodd flas ar astudio cerddoriaeth yno hefyd gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Cafodd ysgoloriaeth i'r Adran Gerdd Frenhinol yn Llundain a derbyniodd radd MusB yn 1871 gan Brifysgol Caergrawnt. Yn wir, yn 1874 cafodd ddyrchafiad i fod yn Athro cerdd cynta'r coleg. Yna dychwelodd i Gymru i fod yn gyfrifol am Adran gerdd Prifysgol Caerdydd.

Fe'i ganed ym 4 Chapel Row, Merthyr Tudful.[1] Ysgrifennodd lawer o ganeuon enwog, ac yn eu plith y mae: 'Myfanwy', 'Hywel a Blodwen' a'r emyn-dôn 'Aberystwyth' a berfformiwyd gyntaf yn Stryd Portland, Aberystwyth. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Blodwen. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog iawn; yn ystod ei oes ysgrifennodd chwech o operâu.

Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn 1903 a'i gladdu yn Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth.

Ysgrifennodd Jack Jones y llyfr Off to Philadelphia in the Morning yn seiliedig ar hanes Joseph Parry.

  1. Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru[dolen farw]. Adalwyd 6 Mawrth 2013

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy