Jwrasig

Cyfnod Jwrasig
199.6–145.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 26 Cyfaint %[1]
(130 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 1950 rhan / miliwn[2]
(7 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 16.5 °C[3]
(3 °C uwch na'r lefel heddiw)


Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol' (CP).

Cyfnod daearegol yw'r Jwrasig[4] (neu Jurasig)[5] sy'n ymestyn am tua 50 miliwn o flynyddoedd - o 201.3± 0.6 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at 145± 4;[6] sef o ddiwedd y cyfnod Triasig i gychwyn y cyfnod Cretasaidd. Dyma felly y cyfnod a adnabyddir fel canol y gorgyfnod Mesosöig (neu 'Oes yr Ymlusgiaid').

Nodir cychwyn y cyfnod Jwrasig gan y digwyddiad difodiant Triasig-Jwrasig anferthol (Saesneg: Triassic–Jurassic extinction event). Bu dau ddigwyddiad pwysig arall yn ystod y cyfnod hwn:

  • y Pliensbachian / Toarcian ar ddechrau'r Triasig a'r
  • Tithonian Hwyr ar ei ddiwedd.

Fodd bynnag, nid yw'r naill na'r llall yn cael eu rhestru ar "Restr y Pum Difodiant Mawr".

Enwir y Jwrasig ar ôl mynyddoedd y Jura, yn yr Alpau, ble adnabuwyd strata calch o'r cyfnod hwn am y tro cyntaf. Alexander von Humboldt oedd y daearegydd a wnaeth y dargafyddiad hwn, gan ei alw'n "Jura-Kalkstein" ('Calchfaen y Jwra') yn 1799.[7][8][9][10] The name "Jura" is derived from the Celtic root *jor via Gaulish *iuris "wooded mountain", which, borrowed into Latin as a place name, evolved into Juria and finally Jura.[8][9][11]

Ar ddechrau'r Jwrasig, dechreuodd yr uwch-gyfandir Pangaea ymranu'n ddwy ran: Laurasia i'r gogledd a Godwana i'r de. Oherwydd cynnydd yn yr arfordir ar y blaned, trodd yr hinsawdd o un sych i un gwlyb a llaith, a throdd sawl anialwch cras a diffaith yn goedwigoedd glaw gwyrddlas a llawn bywyd. Daeth y deinosor i ddominyddu'r Ddaear ac ymddangosodd yr aderyn cyntaf yn ystod y Jurasic o gangen tacsonomegol o'r deinosor theropod.

Ymhlith digwyddiadau mawr eraill roedd ymddangosoad y cena goeg (neu'r 'madfall') ac esblygodd y crocodeil o fyw ar y ddaear i fyw mewn dŵr. Yn y môr, roedd yr ichthyosaur a'r plesiosaur ac yn yr awyr, esblygodd y pterosaur.

  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. Geiriadur bangor; adalwyd 21 Awst 2016.
  5. Geiriadur yr Academi arlein; adalwyd 7 Chwefror 2016
  6. Vennari, Verónica V.; Lescano, Marina; Naipauer, Maximiliano; Aguirre-Urreta, Beatriz; Concheyro, Andrea; Schaltegger, Urs; Armstrong, Richard; Pimentel, Marcio et al. (2014). "New constraints on the Jurassic–Cretaceous boundary in the High Andes using high-precision U–Pb data". Gondwana Research 26: 374–385. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1342937X13002323. Adalwyd 16 Ionawr 2016.
  7. Alexander von Humboldt, Ueber die unterirdischen Gasarten und die Mittel, ihren Nachteil zu vermindern, ein Beitrag zur Physik der praktischen Bergbaukunde ['On the types of subterranean gases and means of minimizing their harm, a contribution to the physics of practical mining'] (Braunschweig: Vieweg, 1799), p. 39: "[…] die ausgebreitete Formation, welche zwischen dem alten Gips und neueren Sandstein liegt, und welchen ich vorläufig mit dem Nahmen Jura-Kalkstein bezeichne." ('… the widespread formation which lies between the old gypsum and the more recent sandstone and which I provisionally designate with the name "Jura limestone".')
  8. 8.0 8.1 Hölder, H. 1964. Jura – Handbuch der stratigraphischen Geologie, IV. Enke-Verlag, Stuttgart.
  9. 9.0 9.1 Arkell, W.J. 1956. Jurassic Geology of the World. Oliver & Boyd, Edinburgh und London.
  10. Pieńkowski, G.; Schudack, M.E.; Bosák, P.; Enay, R.; Feldman-Olszewska, A.; Golonka, J.; Gutowski, J.; Herngreen, G.F.W.; Jordan, P.; Krobicki, M.; Lathuiliere, B.; Leinfelder, R.R.; Michalík, J.; Mönnig, E.; Noe-Nygaard, N.; Pálfy, J.; Pint, A.; Rasser, M.W.; Reisdorf, A.G.; Schmid, D.U.; Schweigert, G.; Surlyk, F.; Wetzel, A. & Theo E. Wong, T.E. 2008. "Jurassic". In: McCann, T. (ed.): The Geology of Central Europe. Volume 2: Mesozoic and Cenozoic, Geological Society, London, pp. 823–922.
  11. Rollier, L. 1903. Das Schweizerische Juragebirge (Sonderabdruck aus dem Geographischen Lexikon der Schweiz). Verlag von Gebr. Attinger, Neuenburg.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy