Leanne Wood | |
---|---|
Wood yn 2016 | |
Arweinydd Plaid Cymru | |
Yn ei swydd 16 Mawrth 2012 – 28 Medi 2018 | |
Arlywydd | Dafydd Wigley |
Dirprwy | Elin Jones |
Cadeirydd | Helen Mary Jones Dafydd Trystan Davies Alun Ffred Jones |
Rhagflaenwyd gan | Ieuan Wyn Jones |
Dilynwyd gan | Adam Price |
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad | |
Yn ei swydd 5 Mai 2016 – 14 Hydref 2016 | |
Teyrn | Elizabeth II |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Andrew R. T. Davies |
Dilynwyd gan | Andrew R. T. Davies [1] |
Aelod o Senedd Cymru dros Rhondda | |
Yn ei swydd 6 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Leighton Andrews |
Dilynwyd gan | Buffy Williams |
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Rhanbarth Canol De Cymru | |
Yn ei swydd 1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Pauline Jarman |
Dilynwyd gan | Neil McEvoy |
Manylion personol | |
Ganwyd | Llwynypia | 13 Rhagfyr 1971
Cenedligrwydd | Cymru |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Ian Brown |
Plant | 1 |
Alma mater | Prifysgol Morgannwg |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Gwleidydd o Gymru a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio.
Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru.
Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2]