Lehi (Hebraeg: לוחמי חרות ישראל–לח״י - Lohamei Herut Israel - Lehi, "Ymladdwyr dros Ryddid Israel - Lehi", a dalfyrrir weithiau yn "LHI"), ac a adwaenir yn aml yn ddifrïol fel Gang Stern, [1][2][3][4] oedd y corff parafilwrolSeionaidd milwriaethus a sefydlwyd gan Avraham ("Yair") Stern ym Mhalestina dan Fandad.[5][6][7] Ei nod addefedig oedd troi awdurdodau Prydain allan o Balesteina trwy ddefnyddio trais, caniatáu mewnfudo anghyfyngedig i Iddewon a ffurfio gwladwriaeth Iddewig. Fe'i galwyd yn wreiddiol yn Gorfff Milwrol Cenedlaethol yn Israel, [8] pan gafodd ei sefydlu ym mis Awst 1940, ond fe'i hailenwyd yn Lehi fis yn ddiweddarach.[9] Cyfeiriodd y grŵp at ei aelodau fel terfysgwyr[10] a chyfaddefodd iddynt gyflawni gweithredoedd terfysgol. [5][11][12]
Ymwahanodd Lehi oddi wrth grŵp milwriaethus Irgun yn 1940 er mwyn parhau i ymladd yn erbyn y Prydeinwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd . Ar y ddechrau, fe geisiodd ymgynghreirio â'r Eidal Ffasgaidd a'r Almaen Natsïaidd.[13] Gan gredu bod yr Almaen Natsïaidd yn llai o elyn i'r Iddewon na Phrydain, ceisiodd Lehi ymgynghreirio â'r Natsïaid ddwywaith, gan gynnig gwladwriaeth Iddewig a fyddai'n seiliedig ar "egwyddorion cenedlaetholgar a totalitaraidd, ac wedi'i chysylltu â Reich yr Almaen drwy gynghrair". [13][14] Wedi marwolaeth Stern ym 1942, dechreuodd arweinyddiaeth newydd Lehi symud tuag at gefnogaeth i Undeb SofietaiddJoseph Stalin[15] ac ideoleg Bolsiefigiaeth Genedlaethol, a ystyrid yn gyfuniad o'r dde a'r chwith.[16][13] Gan eu hystyried eu hunain yn "Sosialwyr chwyldroadol", datblygodd y Lehi newydd ideoleg hynod wreiddiol oedd yn cyfuno cred oedd "bron yn gyfriniol" yn Israel Fwyaf gyda chefnogaeth i'r frwydr i ryddhau'r Arabiaid. [15] Methodd yr ideoleg soffistigedig hon ag ennill cefnogaeth y cyhoedd a gwnaeth Lehi yn wael yn etholiadau cyntaf Israel.[17]
Ym mis Ebrill 1948, roedd Lehi a'r Irgun yn gydgyfrifol am gyflafan a laddodd o leiaf 107 o bentrefwyr Arabaidd Palestina yn Deir Yassin, gan gynnwys menywod a phlant. Lladdodd Lehi yr Arglwydd Moyne, Gweinidog Prydeinig Preswyl y Dwyrain Canol, a gwnaeth nifer o ymosodiadau eraill ar y Prydeinwyr ym Mhalesteina.[18] Ar 29 Mai 1948, ar ôl sefydlu ei haelodau gweithredol yn Lluoedd Amddiffyn Israel, diddymodd llywodraeth Israel Lehi yn ffurfiol, er i rai o'i haelodau gyflawni un weithred derfysgol arall, sef llofruddiaeth Folke Bernadotte rai misoedd yn ddiweddarach.[19] Condemniwyd y weithred gan olynydd Bernadotte, fel cyfryngwr, Ralph Bunche.[20] Ar ôl y llofruddiaeth, cyhoeddodd llywodraeth newydd Israel Lehi yn gorff terfysgol, gan arestio tua 200 o aelodau ac euogfarnu rhai o'r arweinwyr.[21] Ychydig cyn etholiadau cyntaf Israel ym mis Ionawr 1949, caniatawyd amnest cyffredinol i aelodau Lehi gan y llywodraeth. [21] Yn 1980, sefydlodd Israel addurn milwrol, "gwobr am weithgaredd yn y frwydr dros sefydlu Israel", sef rhuban Lehi.[22] Daeth cyn-arweinydd Lehi , Yitzhak Shamir, yn Brif Weinidog Israel ym 1983.
↑"This group was known to its friends as LEHI and to its enemies as the Stern Gang." Blumberg, Arnold.
↑"calling themselves Lohamei Herut Yisrael (LHI) or, less generously, the Stern Gang." Lozowick, Yaacov.
↑"It ended in a split with Stern leading his own group out of the Irgun. This was known pejoratively by the British as "the Stern Gang' – later as Lehi" Shindler, Colin.
↑"Known by their Hebrew acronym as LEHI they were more familiar, not to say notorious, to the rest of the world as the Stern Gang – a ferociously effective and murderous terrorist group fighting to end British rule in Palestine and establish a Jewish state." Cesarani, David.
↑ 5.05.1Arie Perliger, William L. Eubank, Middle Eastern Terrorism, 2006 p. 37: "Lehi viewed acts of terrorism as legitimate tools in the realization of the vision of the Jewish nation and a necessary condition for national liberation."
↑"Eliahu Amikam – Stern Gang Leader". The Washington Post. 16 August 1995. tt. D5. Archifwyd o'r gwreiddiol(Free Preview; full article requires payment.) ar 18 March 2009. Cyrchwyd 18 November 2008. The [AMIKAM] Stern Gang – known in Hebrew as Lehi, an acronym for Israel Freedom Fighters – was the most militant of the pre-state underground groups.
↑Calder Walton (2008). "British Intelligence and the Mandate of Palestine: Threats to British national security immediately after the Second World War". Intelligence and National Security23 (4): 435–462. doi:10.1080/02684520802293049. ISSN0268-4527.
↑Ami Pedahzur, The Israeli Response to Jewish Extremism and Violence: Defending Democracy, Manchester University Press, Manchester and New York 2002 p. 77
↑Gabriel Ben-Dor and Ami Pedahzur, 'Jewish Self-Defence and Terrorist Groups Prior to the Establishment of the State of Israel: Roots and Traditions,' in Ami Pedahzur, Leonard Weinberg (eds.), Religious Fundamentalism and Political Extremism, Frank Cass, 2004 pp. 94–120 [115–116]: 'one final terrorist act...'
↑"Awards for military service towards the establishment of the State of Israel". Israeli Ministry of Defense. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2006. Cyrchwyd 17 September 2018. The ribbon is awarded to: All those who were members of the LEHI underground for a term of six months or more, in the period dating from 1940 up until the establishment of the State of Israel ... Presentation of the ribbon began in 1980.