Ligue 1

Ligue 1 (Cymraeg: Cynghrair 1) yw prif adran bêl-droed Ffrainc. Mae 20 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i - ac yn esgyn o - Ligue 2. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai. Ffurfiwyd Ligue 1 ar 11 Medi 1932 o dan yr enw National cyn newid i Adran 1 wedi blwyddyn o fodolaeth. Newidiwyd enw'r gynghrair i Ligue 1 yn 2002.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy