Llanaelhaearn

Llanaelhaearn
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.976°N 4.407°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000066 Edit this on Wikidata
Cod OSSH384448 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanaelhaearn("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar Benrhyn Llŷn yn ardal Eifionydd.

Saif ar y briffordd A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, lle mae ffordd y B4417 yn fforchio o'r briffordd i gyfeiriad Nefyn. Daeth y pentref yn adnabyddus pan oedd Antur Aelhaearn yn ei anterth. Roedd hwn yn gynllun a anelai at adfywio economi'r pentref ac felly warchod ei ddiwylliant. Cynhelir eisteddfod flynyddol, yn awr yn festri Capel y Babell, sydd wedi ei addasu i fod yn ganolfan gymdeithasol. Mae nifer o enwgion yn gyn-enillwyr yma, yn cynnwys Bryn Terfel.

Mae nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref. Ar gopa dwyreiniol Yr Eifl uwchben y pentref mae Tre'r Ceiri, bryngaer o Oes yr Haearn a ystyrir yn un o'r bryngaerau mwyaf tarawiadol yng Nghymru. Yn Eglwys Sant Aelhaearn mae dwy garreg ac arysgrifau Lladin arnynt. Y mwyaf diddorol yw carreg sy'n dyddio o tua diwedd y 5g, gyda'r arysgrif ALIORTUS ELMETIACO(S) / HIC IACET ("Aliortus, gŵr o Elmet, sy'n gorwedd yma"). Elmet ("Elfed" mewn Cymraeg Diweddar) yw'r hen deyrnas Frythonig yn ardal Leeds heddiw, felly mae'n ymddangos fod Aliortus wedi marw ymhell o gartref. Efallai ei fod ar bererindod i Ynys Enlli. Mae'r ail garreg yn rhoi enw, Melitus, ond dim manylion pellach.

Rhan o Lanaelhaearn gyda'r Eifl yn y cefndir
Hen fythynnod yn y pentref

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy