Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Padarn |
Poblogaeth | 306, 286 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,010.67 ha |
Cyfesurynnau | 52.4°N 3.3°W |
Cod SYG | W04000287 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan gwledig a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanbadarn Fynydd.[1] Saif ar briffordd yr A483 yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Y Drenewydd i'r gogledd a Llandrindod i'r de.
Mae'r pentref ar lan Afon Ieithon. Mae'r bryniau o'i gwmpas yn cynnwys Moel Wilym (469m) a'r Moelfre (475m) i'r dwyrain a'r Ddyle (485m) i'r gorllewin. Y pentrefi agosaf yw Llananno a Llanbister i'r de.
Mae eglwys y plwyf, sy'n rhoi ei henw i'r pentref, yn un o nifer yng Nghymru a gysylltir â Sant Padarn. Yno ceir gweld enghreifft dda o ysgrîn bren ganoloesol a chroglofft mewn arddull sy'n nodweddiadol o'r Canolbarth a'r Gororau.
Ceir castell mwnt a beili Normanaidd a elwir Castell y Blaidd yn y plwyf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]