Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,007 |
Gefeilldref/i | Morbegno |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1208°N 4.1286°W |
Cod SYG | W04000069 |
Cod OS | SH572602 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref mawr a chymuned yng nghalon Eryri, yng Ngwynedd, yw Llanberis ( ynganiad ) neu Llanbêr. Daw'r enw o sant Peris, er mai eglwys pentref cyfagos Nantperis oedd y sefydliad gwreiddiol. Sant o'r 6g oedd Peris. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd y boblogaeth yn 1,954 ac roedd 81% yn siarad Cymraeg yn rhugl, a 100% o'r bobl ifanc rhwng 10–15 oed yn siarad Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Tyfodd y pentref o amgylch Chwarel Dinorwig a chwaraeodd y diwydiant llechi ond bellach y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ydy twristiaeth, Pwerdy Dinorwig a gwaith dŵr y Mynydd Trydan; mae yma hefyd ffatrioedd gan gwmniau Siemens Diagnostics a DMM. Gerllaw, saif adfeilion Castell Dolbadarn: castell a godwyd gan Llywelyn II yn y 13g. Peiniwyd y llyn a'r castell gan lawer o artistiaid gan gynnwys Richard Wilson and J.M.W. Turner.