Math | maenordy wedi'i amddiffyn |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gelli-gaer |
Sir | Gelli-gaer |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 168.7 metr |
Cyfesurynnau | 51.6613°N 3.28291°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Maenor Tuduraidd yw Llancaiach Fawr a leolir ger pentref Nelson ym mwrdeistref sirol Caerffili, De Cymru. Saif tuag 20 munud oddi ar yr A472, ychydig i'r gogledd o hen safle Glofa Llancaiach. Adeiladwyd y neuadd yn 1540 ar gyfer Dafydd ap Richard[1][2] ac fe'i cynlluniwyd er mwyn medru ei amddiffyn ar amrantiad yng nghyfnodau stormus y Tuduriaid.
Mae'r faenor bron yn union fel yr oedd yn 1645 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Yn y flwyddyn honno fe ymwelodd y Brenin Siarl I â'r tŷ ar y 5ed Awst i geisio perswadio'r perchennog, y Cyrnol Edward Pritchard, i ddal i fod yn deyrngar i'r brenin ar adeg pan roedd cefnogaeth i'r frenhiniaeth yn gwanhau. Er ei ymweliad, yn fuan wedyn daeth y teulu Pritchard ynghyd â boneddigion eraill De Cymru yn gefnogwyr i'r llywodraeth ac yn nes ymlaen fe amddiffynnodd Pritchard Gastell Caerdydd rhag y brenhinwyr.[2]
Mae'r plasdy bellach yn amgueddfa byw sy'n ail-greu hanes drwy'r gweision a'r morynion – yn eu gwisgoedd yn adrodd straeon a hanesion am fywyd yn ystod cyfnod y Cyrnol Prichard. Mae’n un o dai ysbrydion enwocaf Cymru, a threfnir teithiau yng ngolau cannwyll yn Hydref i fis Mawrth). Ceir rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau gan gynnwys hebogyddiaeth, brwydrau'r Rhyfel Cartref, saethyddiaeth a ffeiriau gwlad.