Llanddyfnan

Llanddyfnan
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,065 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.290951°N 4.30086°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000014 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4673379578 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ynys Môn yw Llanddyfnan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar y ffordd B5109 rhwng Pentraeth i'r dwyrain a Llangefni i'r gorllewin.

Enwir y plwyf ar ôl Sant Dyfnan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ceir maen hir cynhanesyddol ger y ficerdy.

Cysylltir y teulu o gyfreithwyr Cymreig canoloesol a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu' â Llanddyfnan. Roedd y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1283, yn aelod o'r teulu hwnnw.

Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio i'r de o'r pentref.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in