Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Botwnnog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.84°N 4.57°W |
Cod OS | SH265299 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yn Llŷn, Gwynedd yw Llandegwning ( ynganiad ). Ceir ffurf arall ar yr enw, sef Llandygwynin, sy'n fwy hanesyddol gywir efallai (gweler isod), ond 'Llandegwning' a geir ar lafar ac ar y map yn gyffredinol.
Lleolir y pentref fymryn i'r de o Fotwnnog rhwng Abersoch ac Aberdaron ym Mhen Llŷn. I'r de ceir traeth llydan Porth Neigwl.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]